Beth sy'n digwydd pan mae cwcis trydydd parti wedi eu diffodd ar fy mhorwr?

Diweddarwyd y dudalen: 17 Gorffennaf 2017

Os yw cwcis trydydd parti wedi eu diffodd yn eich porwr, efallai na fydd rhai gwasanaethau ar wefan y BBC yn gweithio fel rydych chi'n ei ddisgwyl.

Mae hyn oherwydd fod eich cyfrif BBC yn dibynnu ar cwcis i ddarparu rhai gwasanaethau bbc.co.uk a bbc.com, fel personoleiddio. Mae hyn fel unrhyw beth rydych chi'n mewngofnodi iddo.

Os yw eich porwr yn atal cwcis trydydd parti, ni fydd peth o'r cynnwys yn gweithio yn iawn, ac efallai bydd yna broblemau gyda'ch cyfrif BBC.

Rydyn ni'n gweithio ar ddatrysiad i'r broblem yma. Yn y cyfamser, os ydych chi wedi dewis atal cwcis trydydd parti, rydyn ni'n argymell gosod eithriadau ar gyfer bbc.co.uk a bbc.com ac account.bbc.com er mwyn osgoi problemau wrth i chi ddefnyddio eich cyfrif BBC.

Ni fydd hyn yn effeithio ar eich gosodiadau preifatrwydd ar wefannau a gwasanaethau eraill rydych chi'n eu defnyddio.

Darganfod mwy

Change language: